Pam Goose?
Mae llawer o resymau pam mae mwy a mwy o fusnesau’n dewis Goose Internet i ofalu am eu Gwefan.
Os byddwch yn chwilio ar-lein am gwmnïau gwe-letya, fe welwch gannoedd o Wefannau sy’n cynnig manylebau technegol dryslyd nad ydynt yn golygu fawr ddim i’r perchennog busnes cyffredin.
Yn Goose rydym yn ceisio osgoi’r jargon i gyd a darganfod beth sydd ei angen ar eich busnes ac yna rhoi’r pecyn i chi a fydd yn addas i’ch busnes. Ar gyfer 95% o fusnesau bach, mae ein pecyn gwe-letya diogel i fusnesau bach am £95 y flwyddyn yn berffaith. Gallwn ddarparu tystysgrifau SSL ar gyfer eich gwefan fel sicrwydd ein bod yn gwe-letya yn ddiogel.
Rydym hefyd yn darparu gwe-letya lled band uchel ar gyfer gwefannau mwy ac yn cynnig perfformiad a dibynadwyedd o’r radd flaenaf sy’n gyfatebol â gweinydd penodol.
Dim straen, dim angen deall y dechnoleg, dim ond cartref i Wefan eich busnes
Ein cynnig hwb cyflymder unigryw
Dyma un gwasanaeth sy’n unigryw i ni! Mae Gwefan gyflym yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y defnyddiwr yn cael y profiad gorau, ac mae peiriannau chwilio hefyd yn hoff o hyn. Pan fydd cwsmeriaid yn symud i Goose, rydym yn optimeiddio pob delwedd ar y Wefan yn ofalus fel ei bod yn llwytho’n gyflym gan gadw’r un ansawdd gweledol.
Gall symud i Goose roi hwb i’ch Gwefan!
Gwasanaeth cwsmeriaid
Mae Goose Internet yn cael ei redeg gan arbenigwyr mewn Marchnata Digidol sy’n deall yr hyn sydd ei angen er mwyn marchnata busnes, a’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio cystal.
Mae cleientiaid yn gofyn i ni am agweddau ar farchnata ar-lein sy’n llawer ehangach na gwe-letya. Rydym yn cynnig gwasanaeth cwsmeriaid cyfeillgar, personol a chroesawgar.