Enwau Parth Ar Werth
Wrth gwrs, bydd angen enw parth arnoch ar gyfer eich Gwefan. Rydym yn cynnig ystod eang o enwau parth i’w gwerthu ac yn codi prisiau hynod gystadleuol. Os ydych yn gwsmer gwe-letya yng Nghymru, gallwn eich helpu i brynu enw parth ‘Wales’ neu ‘Cymru’.
Un gwahaniaeth allweddol sydd rhyngom ni a gwerthwyr parth eraill
Os nad ydych yn talu’r ffi adnewyddu ar amser, rydym yn adnewyddu’r parth beth bynnag!
Rydym wedi clywed straeon arswyd yn y gorffennol am sut mae pobl wedi anghofio talu eu ffioedd adnewyddu enw parth ar amser ac wedi colli eu Gwefan i bob pwrpas! Rydym yn deall bod pobl yn brysur yn rhedeg eu busnes a weithiau’n anghofio talu neu ddim yn derbyn yr e-bost adnewyddu.
Dyna pam rydym yn adnewyddu pob enw parth sydd ar werth ein hunain, p’un a delir amdano ai peidio, heblaw bod y cwsmer yn dweud wrthym i’w canslo. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i chi ein bod ni’n gofalu amdanoch a hyd yn oed os yw eich bywyd neu’ch busnes yn golygu nad ydych yn gallu talu’n brydlon, ni fyddwch yn colli eich Gwefan.
Archebu neu drosglwyddo eich parth
Ni allwch archebu parth ar-lein ar hyn o bryd. Yn hytrach, byddai’n well gennym ddelio â chwsmeriaid yn uniongyrchol a gallwn hyd yn oed gynnig cyngor ar yr enw parth gorau i’w brynu ar gyfer eich busnes.
Cysylltwch â ni i archebu eich enw parth neu i’w symud draw i Goose