Byddwn yn trosglwyddo’ch Gwefan i chi. Dim amser segur, dim tâl. Dim ond cwmni lletya gwell, cefnogaeth gyfeillgar a gwasanaeth gwych.
Poeni bod eich Gwefan yn araf? Gwnewch y prawf hwn, sydd am ddim gan Google, i fesur cyflymder y Wefan. Mae angen i chi sgorio mwy nag 80 allan o gant. Os yw amser ymateb eich gweinydd yn araf a bod hynny’n broblem, efallai yr hoffech chi uwchraddio’ch cwmni lletya.
Mae yna nifer o resymau pam efallai yr hoffech chi symud i gwmni Lletya diogel newydd:
- Gweinydd sy’n perfformio’n gyflymach
- Gwell gwasanaeth i gwsmeriaid
- Mwy dibynadwy
- Efallai eich bod chi wedi’ch siomi gan eich datblygwr/cwmni lletya presennol
- Gallwch arbed arian!
Yn union fel mae llawer o bobl yn aros gyda’u cyflenwr ynni, mae rhai busnesau yn aros gyda’r un cwmni lletya am nad ydyn nhw’n gwybod sut i symud eu Gwefan.
Rydyn ni’n hwyluso hyn trwy reoli’r broses gyfan i chi megis gosod tystysgrif SSL. Mae hyd yn oed gennym restr lawn o enwau parth ar werth a gallwn eich helpu i brynu unrhyw enw parth yng Nghymru neu’r DU.
Ar ôl i chi gytuno, byddwn yn gwneud y canlynol:
- Cael mynediad i’ch Gwefan a’ch enw parth
- Ailadeiladu eich Gwefan ar ein gweinyddion lletya https
- Profi eich Gwefan i sicrhau ei bod yn gweithio
- Trosglwyddo eich Gwefan i ni a’i gwneud yn fyw
Dim amser segur, dim trafferth, dim ond gwell perfformiad a gwell gwasanaeth.
Cysylltwch â ni i symud eich Gwefan i Goose Internet.